Mae ymarferion ymgysylltu Cyngor Caerdydd wedi dod i ben.
I’r rhai sydd wedi cymryd rhan mewn ymgyrch Ysgol De Caerdydd, diolch o galon am eich holl waith caled.
Bydd mwy o gyfleoedd i gymryd rhan yn yr ymgyrch yn 2026. Tanysgrifiwch i gylchlythyron e-byst er mwyn bod ymhlith y cyntaf i glywed am newyddion yr ymgyrch.
Dyma oedd ein neges fer at y cyngor:
Annwyl Gyngor Caerdydd
Rydw i’n cefnogi Ysgol bob oed (3-19) cyfrwng Cymraeg wedi ei lleoli yn Nhre-biwt neu Grangetown ac i wasanaethu teuluoedd a chymunedau de Caerdydd – sef ysgol uwchradd a chynradd cyfrwng Cymraeg mewn adeilad newydd, cynaliadwy gydag adnoddau i’r gymuned (Opsiwn 5 yn y ddogfen “Ymgysylltu â rhanddeiliaid ar dŵf cynaliadwy darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg”).
* Mae’r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb o bob cefndir.
* Er bod poblogaeth de’r ddinas yn tyfu, does dim ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i wasanaethu de’r ddinas. Rhaid i blant gael ysgol leol – nid teithio allan o’u cymunedau.
* Mae lledaeniad daearyddol addysg uwchradd Gymraeg y ddinas yn camwahaniaethu yn erbyn cymunedau mwyaf aml-ddiwylliannol y ddinas a Chymru.
* Mae hyn yn anghyfiawnder sy’n cael ei ddioddef gan blant o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd y brifddinas a Chymru.
* Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn pwysleisio’n glir y dylai plant dderbyn eu haddysg yn eu cymuned er mwyn dathlu eu hunaniaeth wrth ddysgu am y byd.
* Nid yw cludo plant de’r ddinas o’u cymunedau yn deg a chynhwysol ac nid oes modd iddynt deithio’n gyfleus i ysgol gymunedol sy’n eu cynrychioli. Rhaid cael ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Ne, Gogledd, Dwyrain a Gorllewin y ddinas!
* Bydd yr ysgol bob oed yn ychwanegu at ddarpariaeth gynradd yn ne Caerdydd, a gellid cynyddu nifer y ffrydiau cynradd dros amser. Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg 2025 yn golygu bod gan y Cyngor ddyletswydd i dyfu addysg cyfrwng Cymraeg yn weithredol.
Darllenwch safbwynt ymgyrch Ysgol De Caerdydd sydd yn rhoi mwy o fanylion am y pwyntiau uchod: https://decaerdydd.cymru/ymgysylltu
Fel mater o gyfiawnder cymdeithasol, rhaid adeiladu 4edd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y ddinas yn syth – ysgol bob oed (3-19) wedi ei lleoli yn ac i wasanaethu plant Tre-biwt, Grangetown a chymunedau de’r ddinas.
[Diwedd]

