Categori: Newyddion

  • Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd – e-bostiwch eich ymgeiswyr Senedd nawr

    Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd – e-bostiwch eich ymgeiswyr Senedd nawr

    Bydd etholiad i’r Senedd ar 7 Mai 2026.

    Os ydych chi’n pleidleisio yng Nghaerdydd, mae’r wefan newydd hon dinas.cymru yn adnodd i chi.

    Bydd aelodau’r Senedd sy’n ein cynrychioli ni yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd.

    Mae hynny yn cynnwys yr angen i adeiladu Ysgol De Caerdydd yn Grangetown/Tre-biwt yn ogystal ag anghenion eraill.

    Er bod gan Gyngor Caerdydd ei rôl hanfodol i’w chwarae, mae hwn yn gyfle mawr i dynnu sylw ymgeiswyr y Senedd i’r angen i dyfu addysg Gymraeg yn y ddinas.

    Dau bwynt ymarferol:

    Diolch yn fawr iawn i chi ac i’r holl grwpiau a mudiadau sy’n cyd-drefnu ac yn cefnogi’r neges at ymgeiswyr.

  • Diolch o galon am gymryd rhan yn yr ymgysylltu

    Diolch o galon am gymryd rhan yn yr ymgysylltu

    Mae ymarferion ymgysylltu Cyngor Caerdydd wedi dod i ben.

    I’r rhai sydd wedi cymryd rhan mewn ymgyrch Ysgol De Caerdydd, diolch o galon am eich holl waith caled.

    Bydd mwy o gyfleoedd i gymryd rhan yn yr ymgyrch yn 2026. Tanysgrifiwch i gylchlythyron e-byst er mwyn bod ymhlith y cyntaf i glywed am newyddion yr ymgyrch.

    Dyma oedd ein neges fer at y cyngor:

    Annwyl Gyngor Caerdydd

    Rydw i’n cefnogi Ysgol bob oed (3-19) cyfrwng Cymraeg wedi ei lleoli yn Nhre-biwt neu Grangetown ac i wasanaethu teuluoedd a chymunedau de Caerdydd – sef ysgol uwchradd a chynradd cyfrwng Cymraeg mewn adeilad newydd, cynaliadwy gydag adnoddau i’r gymuned (Opsiwn 5 yn y ddogfen “Ymgysylltu â rhanddeiliaid ar dŵf cynaliadwy darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg”).

    * Mae’r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb o bob cefndir.

    * Er bod poblogaeth de’r ddinas yn tyfu, does dim ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i wasanaethu de’r ddinas. Rhaid i blant gael ysgol leol – nid teithio allan o’u cymunedau.

    * Mae lledaeniad daearyddol addysg uwchradd Gymraeg y ddinas yn camwahaniaethu yn erbyn cymunedau mwyaf aml-ddiwylliannol y ddinas a Chymru.

    * Mae hyn yn anghyfiawnder sy’n cael ei ddioddef gan blant o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd y brifddinas a Chymru.

    * Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn pwysleisio’n glir y dylai plant dderbyn eu haddysg yn eu cymuned er mwyn dathlu eu hunaniaeth wrth ddysgu am y byd.

    * Nid yw cludo plant de’r ddinas o’u cymunedau yn deg a chynhwysol ac nid oes modd iddynt deithio’n gyfleus i ysgol gymunedol sy’n eu cynrychioli. Rhaid cael ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Ne, Gogledd, Dwyrain a Gorllewin y ddinas!

    * Bydd yr ysgol bob oed yn ychwanegu at ddarpariaeth gynradd yn ne Caerdydd, a gellid cynyddu nifer y ffrydiau cynradd dros amser. Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg 2025 yn golygu bod gan y Cyngor ddyletswydd i dyfu addysg cyfrwng Cymraeg yn weithredol.

    Darllenwch safbwynt ymgyrch Ysgol De Caerdydd sydd yn rhoi mwy o fanylion am y pwyntiau uchod: https://decaerdydd.cymru/ymgysylltu

    Fel mater o gyfiawnder cymdeithasol, rhaid adeiladu 4edd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y ddinas yn syth – ysgol bob oed (3-19) wedi ei lleoli yn ac i wasanaethu plant Tre-biwt, Grangetown a chymunedau de’r ddinas.

    [Diwedd]

    Darllenwch ymatebion llawn yr ymgyrch i Gyngor Caerdydd.

  • Addysg Gymraeg – nodyn o gyngor ar “arolwg ymgysylltu” Caerdydd

    Addysg Gymraeg – nodyn o gyngor ar “arolwg ymgysylltu” Caerdydd

    Diolch i chi a phawb sydd wedi e-bostio Cyngor Caerdydd i gefnogi Ysgol De Caerdydd – ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i dde Caerdydd wedi’i lleoli yn Grangetown/Tre-biwt!

    Os nad ydych chi wedi e-bostio’r cyngor eto… Cofiwch fod y cyngor yn eich gwahodd i leisio barn am addysg Gymraeg nawr, a’r diwrnod olaf i wneud hyn fydd 26 Mawrth. Anfonwch yr e-bost heddiw.

    Mae’r cyngor yn anfon e-bost o gadarnhad at unrhyw berson sydd wedi e-bostio:

    Annwyl Ymgynghorai,

    Diolch am eich ymateb e-bost i’r ymarfer ymgysylltu ar dwf cynaliadwy darpariaeth ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg.

    […]

    Byddem yn ddiolchgar pe gallech chi hefyd gwblhau’r arolwg ymgysylltu […]

    Mae’r cyngor eisoes wedi datgan bod e-bost yn ffordd ddilys a derbyniol o ymateb i’r ymgysylltu. Dyw hi ddim yn hollol glir pam rydyn ni’n cael cais i gwblhau arolwg.

    Os oes gennych 5-10 munud, gallech chi fynd trwy’r arolwg.

    Dyma rai pethau y gallech chi gadw mewn cof.

    Pwyntiau cyffredinol

    • Mae pob cwestiwn yn opsiynol. Os nad ydych chi’n siŵr beth sydd orau rydych chi’n gallu anwybyddu unrhyw gwestiwn.
    • Mae hyn yn ymgysylltu anffurfiol i “dynnu mas yr isiws”. Dyw e ddim yn ymgynghoriad ffurfiol. Mae’ch ymateb yn rhan o sgwrs. Felly mae’n bwysig i gymryd rhan, a cheisio cyfleu’r canlyniad gorau. Ond dyw hi ddim yn werth poeni am y manylion bach.

    Adran 2: Egwyddorion ac Adran 3: Blaenoriaethau

    • Mae Adran 2: Egwyddorion ac Adran 3: Blaenoriaethau yn od achos maen nhw’n cynnwys rhestrau o bethau sydd i gyd yn bwysig. Mae rhai ohonyn nhw’n ddyletswyddau statudol ar Gyngor Caerdydd! Os oes unrhyw amheuaeth am unrhyw beth, symudwch ymlaen.

    Adran 4: Opsiynau

    • Adran 4: Opsiynau yw’r adran fwyaf arwyddocaol o’r arolwg. Dyma’r ymatebion mae’r ymgyrch yn argymhell:
      • Opsiwn 4:  Sefydlu pedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg newydd yn ne Caerdydd – “Cymorth” (Cefnogi)
      • Opsiwn 5:  Sefydlu ysgol Gymraeg 3-16, neu 3-19 oed newydd yn ne Caerdydd – Cefnogi’r Gryf
      • Fel ymgyrch rydyn ni’n Gwrthwynebu’n Gryf yr holl opsiynau eraill (1, 2, 3, a 6). Maen nhw naill ai’n annigonol neu’n annerbyniol o niweidiol.

    Opsiwn 5 yw’r gorau oherwydd byddai’n dod â’r 4edd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i dde’r ddinas, a hefyd yn mynd i’r afael â’r angen cynyddol am ragor o lefydd meithrin/cynradd. Mae Ysgol Hamadryad yn ysgol ardderchog a fydd yn bwydo’r ysgol uwchradd newydd hon. Ar hyn o bryd mae Hamadryad yn gwasanaethu ardal gyfan y Bae, Tre-biwt a Grangetown. Os yw’r cyngor o ddifrif am ei ddyletswydd a’i strategaeth o roi’r iaith Gymraeg i fwy o blant yna bydd angen mwy o ddarpariaeth gynradd Gymraeg yn y gymuned am y blynyddoedd i ddod. Gellid cynyddu hyn yn raddol dros amser. Byddai campws bob oed (lleoli’r meithrin/cynradd newydd ar yr un safle â’r ysgol uwchradd newydd) yn dod â llawer o fanteision.

    Opsiwn 4 yw’r ail orau, dyna pam mae “Cymorth” (Cefnogi) yn gwneud sens. Ei wendid fel opsiwn yw nad yw’n sôn am dŵf meithrin/cynradd.

    Map Caerdydd

    Adran 5: Dalgylchoedd

    • Mae Adran 5: Dalgylchoedd yn anodd ei hateb. Bydd yr ysgol newydd yn gwella hygyrchedd addysg Gymraeg yn ne Caerdydd. Bydd hi’n creu dalgylch newydd beth bynnag. Mae’n well neidio dros y cwestiwn hwn oherwydd does dim cyd-destun. Gall ei ateb greu’r argraff mai’r datrysiad terfynol yw chwarae gyda’r dalgylchoedd. Ni fydd y rhain yn mynd i’r afael â’r angen yng Grangetown, Tre-biwt a’r ardaloedd cyfagos am ysgol newydd sbon.

    Gobeithio bod popeth yma yn help i chi. Os hoffech chi gael manylion gallwch weld ymateb hir yr ymgyrch i’r ymarferion ymgysylltu.

    Mae croeso i chi anfon e-bost at dîm yr ymgyrch os ydych chi eisiau helpu neu os ydych chi eisiau sgwrs.

  • E-bostiwch Gyngor Caerdydd am Ysgol De Caerdydd a rhannwch y cyfle gyda ffrindiau

    E-bostiwch Gyngor Caerdydd am Ysgol De Caerdydd a rhannwch y cyfle gyda ffrindiau

    E-bostiwch Gyngor Caerdydd heddiw

    Mae modd i chi e-bostio Cyngor Caerdydd nawr i fynegi cefnogaeth dros ysgol Gymraeg bob oed (3-19) i dde Caerdydd – ysgol uwchradd a chynradd mewn adeilad newydd yn Grangetown/Tre-biwt.

    Bydd ymgysylltiad Cyngor Caerdydd ar addysg uwchradd Gymraeg yn dod i ben ar ddydd Iau 26 Mawrth 2026 felly dyma eich cyfle i weithredu.

    Mae’r ymgyrch dros ysgol cyfrwng Cymraeg bob oed (3-19 oed) i Dre-biwt, Grangetown a’r ardaloedd cyfagos wedi llunio ymateb templed hawdd i chi gopïo mewn un e-bost i’r cyngor.

    Ac o fewn 3 munud? Byddech chi wedi cyfrannu eich llais dros blant de’r ddinas.

    Mae plant Tre-biwt, Grangetown a’r ardaloedd cyfagos yn dibynnu arnom nawr i alw am ysgol bob oed (3-19 oed) cyfrwng Cymraeg iddynt!

    Byddai’r ysgol yn cynnwys y 4edd ysgol uwchradd Gymraeg yn y ddinas. Yn ogystal bydd yn tyfu darpariaeth meithrin/cynradd Cymraeg ar y safle am y blynyddoedd i ddod. Campws fydd yn adnodd o ddefnydd i’r gymuned gyfan a man byrlymus, dinesig lle bydd y Gymraeg yn ganolog ac yn rhan o stori aml-ddiwylliannol, amlieithog.

    Mewn dinas o faint Caerdydd, mae angen ysgolion uwchradd Cymraeg ar y Gogledd, y De, y Dwyrain a’r Gorllewin.

    Plis peidiwch ag anghofio ymateb achos bydd pob e-bost i Gyngor Caerdydd yn cyfrif.

    Rhannwch y cyfle i e-bostio’r cyngor

    Gorau oll os allech chi annog ffrind neu gymydog i ymateb hefyd. Diolch!

    Y cyfeiriad i’w argymhell yw www.decaerdydd.cymru ar gyfer y camau i’w dilyn. Diolch!

    Dyma rai eitemau ar y sosials i chi hoffi a rhannu ymlaen.

    Facebook (Cymraeg)

    3 munud o dy amser i alw am yr ysgol

    Facebook (Saesneg)

    3 minutes of your time to call for the school

    Instagram (Cymraeg)

    3 munud o dy amser i alw am yr ysgol!

    Instagram (Saesneg)

    3 minutes of your time to call for the school

    Bluesky (Cymraeg)

    3 munud o dy amser i alw am ysgol.Cer i decaerdydd.cymru

    Ysgol_De_Caerdydd (@ysgoldecaerdydd.bsky.social) 2026-03-04T16:12:17.294Z

    Bluesky (Saesneg)

    3 minutes of your time to call for the schoolGo to southcardiff.wales

    Ysgol_De_Caerdydd (@ysgoldecaerdydd.bsky.social) 2026-03-04T16:32:32.045Z

  • Trefnwyr cymunedol, cerddorion, artistiaid, beirdd, actorion yn cefnogi ymgyrch Ysgol De Caerdydd

    Mae dros 80 o bobl adnabyddus wedi arwyddo llythyr cyhoeddus yn galw ar Arweinydd a Chabinet Cyngor Caerdydd i sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg ar gyfer cymunedau Tre-Biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos.

    Ymysg y bobl sydd wedi arwyddo mae arweinwyr cymunedol ardal Tre-biwt a Grangetown megis Emily Pemberton, Tariq Awan, Liz Musa, ac Ifty Khan.

    Ymysg y cerddorion, artistiaid, beirdd ac actorion sydd wedi arwyddo mae Gwenno Saunders, Dafydd Iwan, Gruff Rhys, Dionne Bennett, Hammad Rind, Patricia Morgan (Datblygu), Don Leisure, Caryl Parry Jones, Sue Jones Davies, Cian Ciarán, Ani Saunders, Griff Lynch, Cerys Hafana, Annes Elwy, Morgan Elwy, Rachael Solomon (Eden), John Griffiths (Llwybr Llaethog), DJ Jaffa, Peredur ap Gwynedd (Pendulum), Sharon Morgan, Lisa Angharad, Rhys Gwynfor, Joe Patrick Healy, Ali Goolyad, Kyle Legall, Llio Maddocks, a Miriam Isaac.

    Darllenwch y stori lawn ar wefan Newyddion S4C.

    Gweler hefyd: straeon Golwg360 a Nation.Cymru

    Diweddariadau:

    Roedd erthygl a fideo am yr ymgyrch gan Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd.

    Mae modd i chi e-bostio Cyngor Caerdydd bellach i fynegi eich cefnogaeth erbyn 26 Mawrth 2026.