Bydd etholiad i’r Senedd ar 7 Mai 2026.
Os ydych chi’n pleidleisio yng Nghaerdydd, mae’r wefan newydd hon dinas.cymru yn adnodd i chi.
Bydd aelodau’r Senedd sy’n ein cynrychioli ni yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd.
Mae hynny yn cynnwys yr angen i adeiladu Ysgol De Caerdydd yn Grangetown/Tre-biwt yn ogystal ag anghenion eraill.
Er bod gan Gyngor Caerdydd ei rôl hanfodol i’w chwarae, mae hwn yn gyfle mawr i dynnu sylw ymgeiswyr y Senedd i’r angen i dyfu addysg Gymraeg yn y ddinas.
Dau bwynt ymarferol:
- E-bostiwch ymgeiswyr i ofyn iddyn nhw addo cefnogi twf addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Gallwch chi ddilyn y camau ar y wefan, bydd yn cymryd 3 munud.
- Rhannwch y wefan gyda ffrindiau!
Diolch yn fawr iawn i chi ac i’r holl grwpiau a mudiadau sy’n cyd-drefnu ac yn cefnogi’r neges at ymgeiswyr.


Gadael Ymateb