Dyma destun llythyr agored at sylw Cyngor Caerdydd a anfonwyd ar 21 Medi 2026.
Annwyl Chris Weaver a Chabinet Cyngor Caerdydd,
Roedd hi’n galonogol iawn clywed eich sylwadau yn y Cyngor ar 26 Mehefin 2026 ynghylch eich dyhead i sicrhau ecwiti i bob plentyn yn y ddinas gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.
Ysgol Bob Oed (3-19) cyfrwng Cymraeg i wasanaethu Tre-biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos
- Ar drothwy cyhoeddi canlyniadau “Ymgysylltu â rhanddeiliaid ar dŵf cynaliadwy darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg”, dymunwn nodi’n gyhoeddus felly mai yn eich dwylo chi y mae’r cyfrifoldeb i unioni degawdau o gamwahaniaethu strwythurol yn erbyn cymunedau mwyaf aml-ddiwylliannol y ddinas a’r genedl yng nghyd-destun llwybr dilyniant addysg cyfrwng Cymraeg o’r meithrin i’r chweched dosbarth. Gwelir o hyd dan-gynrychiolaeth enbyd o rai cymunedau, boed hynny’n gymunedau daearyddol neu ddiwylliannol, mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Dim ond drwy sicrhau’r bedwaredd ysgol uwchradd fel rhan o gais am gyllid i sefydlu Ysgol Bob Oed (3-19 oed) cyfrwng Cymraeg i wasanaethu Tre-biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos y bydd modd ichi gael y posibilrwydd o wyrdroi’r anghyfiawnder cymdeithasol hwn.
Tir Sgwâr Callaghan
- Nodwn hefyd sylwadau eich rhagflaenydd Huw Thomas AS am y bedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg a’i gyfeiriad at leoliad posib rhwng Tre-biwt a chanol y ddinas (yn siambr y Senedd ar 16 Mehefin 2026, a dyfyniad mewn erthygl Nation.Cymru ar 17 Medi 2026). Mae’r lleoliad yn gwbwl ddelfrydol yn yr ystyr ei fod ar stepen drws cymunedau Tre-biwt a Grangetown. Gobeithiwn yn fawr eich bod yn parhau i ddatblygu’r achos dros sefydlu’r bedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg a chweched dosbarth penodedig ar Sgwâr Callaghan fel canolbwynt i gampws aml-safle fydd yn cwmpasu ffrydiau cynradd newydd ynghyd ag adnoddau i’r gymuned gyfan. Mynegwn bryder dirfawr felly fod Llywodraeth Cymru, yn ôl y sôn, yn ystyried cefnu ar y syniad o glustnodi’r tir i sefydlu’r ysgol gyda’r nod o’i werthu at bwrpasau preifat. Mae hyn yn pwysleisio’r brys argyfyngus sydd arnoch i gyflwyno cais ffurfiol am y tir hwn i Lywodraeth Cymru. Dim ond chi fel gweinyddiaeth sydd â’r grym i gydweithio â Llywodraeth Cymru i glustnodi’r tir hwn, neu fel arall sicrhau safle arall sy’n addas wrth galon y gymuned, er lles plant a phobol ifanc de Caerdydd yn hytrach na buddiannau preifat.
Gwarchod Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
- Yn ogystal â sefydlu’r bedwaredd ysgol uwchradd fel rhan o’r Ysgol Bob Oed, disgwyliwn ymrwymiad di-amwys y byddwch yn gwarchod Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern sydd wrth galon cymuned dwyrain Caerdydd, gan ymrwymo i uwchraddio adnoddau’r ysgol i adeilad uchel ei safon sy’n ffit i bwrpasau addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain. Yn unol ag un o brif gonglfeini’r Cwricwlwm i Gymru, mae angen ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gymunedol ym mhob pwynt cwmpawd o’r ddinas.
Gyda’r etholiadau lleol ym mis Mai 2027, dyma’ch cyfle fel y weinyddiaeth bresennol i ddangos eich bod o ddifrif am gyflawni dros deuluoedd de Caerdydd, buddsoddi yn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yng ngogledd, gorllewin a dwyrain y ddinas a dangos, mewn modd cwbwl ymarferol, fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, o bob cefndir.
Yn gywir,
- Catrin Dafydd
- Matthew Ford
- Carl Morris
- Emily Pemberton
- Osian Rhys
- Llywelyn ap Gwilym, cyd-drefnydd Rhieni Dalgylch Bro Edern
- Siôn Llewelyn Jones, cadeirydd Cell Caerdydd, Cymdeithas yr Iaith












