Diolch i chi a phawb sydd wedi e-bostio Cyngor Caerdydd i gefnogi Ysgol De Caerdydd – ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i dde Caerdydd wedi’i lleoli yn Grangetown/Tre-biwt!
Os nad ydych chi wedi e-bostio’r cyngor eto… Cofiwch fod y cyngor yn eich gwahodd i leisio barn am addysg Gymraeg nawr, a’r diwrnod olaf i wneud hyn fydd 26 Mawrth. Anfonwch yr e-bost heddiw.
Mae’r cyngor yn anfon e-bost o gadarnhad at unrhyw berson sydd wedi e-bostio:
Annwyl Ymgynghorai,
Diolch am eich ymateb e-bost i’r ymarfer ymgysylltu ar dwf cynaliadwy darpariaeth ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg.
[…]
Byddem yn ddiolchgar pe gallech chi hefyd gwblhau’r arolwg ymgysylltu […]
Mae’r cyngor eisoes wedi datgan bod e-bost yn ffordd ddilys a derbyniol o ymateb i’r ymgysylltu. Dyw hi ddim yn hollol glir pam rydyn ni’n cael cais i gwblhau arolwg.
Os oes gennych 5-10 munud, gallech chi fynd trwy’r arolwg.
Dyma rai pethau y gallech chi gadw mewn cof.
Pwyntiau cyffredinol
- Mae pob cwestiwn yn opsiynol. Os nad ydych chi’n siŵr beth sydd orau rydych chi’n gallu anwybyddu unrhyw gwestiwn.
- Mae hyn yn ymgysylltu anffurfiol i “dynnu mas yr isiws”. Dyw e ddim yn ymgynghoriad ffurfiol. Mae’ch ymateb yn rhan o sgwrs. Felly mae’n bwysig i gymryd rhan, a cheisio cyfleu’r canlyniad gorau. Ond dyw hi ddim yn werth poeni am y manylion bach.
Adran 2: Egwyddorion ac Adran 3: Blaenoriaethau
- Mae Adran 2: Egwyddorion ac Adran 3: Blaenoriaethau yn od achos maen nhw’n cynnwys rhestrau o bethau sydd i gyd yn bwysig. Mae rhai ohonyn nhw’n ddyletswyddau statudol ar Gyngor Caerdydd! Os oes unrhyw amheuaeth am unrhyw beth, symudwch ymlaen.
Adran 4: Opsiynau

- Adran 4: Opsiynau yw’r adran fwyaf arwyddocaol o’r arolwg. Dyma’r ymatebion mae’r ymgyrch yn argymhell:
- Opsiwn 4: Sefydlu pedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg newydd yn ne Caerdydd – “Cymorth” (Cefnogi)
- Opsiwn 5: Sefydlu ysgol Gymraeg 3-16, neu 3-19 oed newydd yn ne Caerdydd – Cefnogi’r Gryf
- Fel ymgyrch rydyn ni’n Gwrthwynebu’n Gryf yr holl opsiynau eraill (1, 2, 3, a 6). Maen nhw naill ai’n annigonol neu’n annerbyniol o niweidiol.
Opsiwn 5 yw’r gorau oherwydd byddai’n dod â’r 4edd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i dde’r ddinas, a hefyd yn mynd i’r afael â’r angen cynyddol am ragor o lefydd meithrin/cynradd. Mae Ysgol Hamadryad yn ysgol ardderchog a fydd yn bwydo’r ysgol uwchradd newydd hon. Ar hyn o bryd mae Hamadryad yn gwasanaethu ardal gyfan y Bae, Tre-biwt a Grangetown. Os yw’r cyngor o ddifrif am ei ddyletswydd a’i strategaeth o roi’r iaith Gymraeg i fwy o blant yna bydd angen mwy o ddarpariaeth gynradd Gymraeg yn y gymuned am y blynyddoedd i ddod. Gellid cynyddu hyn yn raddol dros amser. Byddai campws bob oed (lleoli’r meithrin/cynradd newydd ar yr un safle â’r ysgol uwchradd newydd) yn dod â llawer o fanteision.
Opsiwn 4 yw’r ail orau, dyna pam mae “Cymorth” (Cefnogi) yn gwneud sens. Ei wendid fel opsiwn yw nad yw’n sôn am dŵf meithrin/cynradd.

Adran 5: Dalgylchoedd
- Mae Adran 5: Dalgylchoedd yn anodd ei hateb. Bydd yr ysgol newydd yn gwella hygyrchedd addysg Gymraeg yn ne Caerdydd. Bydd hi’n creu dalgylch newydd beth bynnag. Mae’n well neidio dros y cwestiwn hwn oherwydd does dim cyd-destun. Gall ei ateb greu’r argraff mai’r datrysiad terfynol yw chwarae gyda’r dalgylchoedd. Ni fydd y rhain yn mynd i’r afael â’r angen yng Grangetown, Tre-biwt a’r ardaloedd cyfagos am ysgol newydd sbon.
Gobeithio bod popeth yma yn help i chi. Os hoffech chi gael manylion gallwch weld ymateb hir yr ymgyrch i’r ymarferion ymgysylltu.
Mae croeso i chi anfon e-bost at dîm yr ymgyrch os ydych chi eisiau helpu neu os ydych chi eisiau sgwrs.


Gadael Ymateb