Blog

  • Addysg Gymraeg – nodyn o gyngor ar “arolwg ymgysylltu” Caerdydd

    Diolch i chi a phawb sydd wedi e-bostio Cyngor Caerdydd i gefnogi Ysgol De Caerdydd – ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i dde Caerdydd wedi’i lleoli yn Grangetown/Tre-biwt! Os nad ydych chi wedi e-bostio’r cyngor eto… Cofiwch fod y cyngor yn eich gwahodd i leisio barn am addysg Gymraeg nawr, a’r diwrnod olaf i wneud hyn…

  • E-bostiwch Gyngor Caerdydd am Ysgol De Caerdydd a rhannwch y cyfle gyda ffrindiau

    E-bostiwch Gyngor Caerdydd heddiw Mae modd i chi e-bostio Cyngor Caerdydd nawr i fynegi cefnogaeth dros ysgol Gymraeg bob oed (3-19) i dde Caerdydd – ysgol uwchradd a chynradd mewn adeilad newydd yn Grangetown/Tre-biwt. Bydd ymgysylltiad Cyngor Caerdydd ar addysg uwchradd Gymraeg yn dod i ben ar ddydd Iau 26 Mawrth 2026 felly dyma eich…

  • Ymgysylltu Cyngor Caerdydd: ymatebion llawn ymgyrch Ysgol De Caerdydd

    Dyma ymatebion yr ymgyrch i’r ddau ymarfer ymgysylltu mae Cyngor Caerdydd yn cynnal. Cofiwch fod modd i chi e-bostio’r cyngor i fynegi eich cefnogaeth i ymgyrch Ysgol De Caerdydd – erbyn 26 Mawrth 2026. Ymateb i “Ymgysylltu ar newidiadau byrdymor i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn 2027/2028” Annwyl Arweinydd y Cyngor a’r Cabinet, Mynegwn siom…

  • Trefnwyr cymunedol, cerddorion, artistiaid, beirdd, actorion yn cefnogi ymgyrch Ysgol De Caerdydd

    Mae dros 80 o bobl adnabyddus wedi arwyddo llythyr cyhoeddus yn galw ar Arweinydd a Chabinet Cyngor Caerdydd i sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg ar gyfer cymunedau Tre-Biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos. Ymysg y bobl sydd wedi arwyddo mae arweinwyr cymunedol ardal Tre-biwt a Grangetown megis Emily Pemberton, Tariq Awan, Liz Musa, ac Ifty Khan. Ymysg…