Dyma ymatebion yr ymgyrch i’r ddau ymarfer ymgysylltu mae Cyngor Caerdydd yn cynnal.
Cofiwch fod modd i chi e-bostio’r cyngor i fynegi eich cefnogaeth i ymgyrch Ysgol De Caerdydd – erbyn 26 Mawrth 2026.
Ymateb i “Ymgysylltu ar newidiadau byrdymor i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn 2027/2028”
Annwyl Arweinydd y Cyngor a’r Cabinet,
Mynegwn siom fawr am y diffyg cynllunio ar ran y Cyngor ar gyfer blwyddyn 2027-2028, o ystyried bod y cyngor yn gwybod y niferoedd o blant fydd angen llefydd uwchradd cyfrwng Cymraeg ers blynyddoedd.
Disgwyliwn y bydd y Cyngor yn cydweithio’n agos a chyfathrebu’n glir gydag ysgolion a theuluoedd i ganfod datrysiad i’r broblem o ddiffyg llefydd ar gyfer 2027-28.
Dylai unrhyw ddatrysiad “dros dro” weithio mewn undod gyda’r cynllun o fodolaeth pedair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y brifddinas a’r bedwaredd yn rhan o ysgol bob oed (3-19) cyfrwng Cymraeg wedi ei lleoli yn, ac i wasanaethu, Tre-biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos yn ne’r ddinas.
Yn ddiffuant,
Ymgyrch Ysgol De Caerdydd
Ymateb i “Ymgysylltu â rhanddeiliaid ar dŵf cynaliadwy darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg”
Annwyl Arweinydd y Cyngor a’r Cabinet,
Fel rhan o’r ymgysylltiad cyhoeddus am ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y ddinas dymunwn gyfleu
- ein cefnogaeth gref i ysgol cyfrwng Cymraeg bob oed (3-19) i’w lleoli yn ac i wasanaethu Tre-biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos de Caerdydd (Opsiwn 5 yn y ddogfen “Ymgysylltu â rhanddeiliaid ar dŵf cynaliadwy darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg”).
Fel rydych yn sôn yn eich cyflwyniad i’r ymgysylltiad, mae ysgolion yn effeithio ar bob rhan o fywyd teuluol a chymunedol, ein plant, ein patrymau bywyd, ein gwaith a’n hardal leol.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb felly dylai fod gan bob plentyn yr hawl i ddilyniant addysg cyfrwng Cymraeg o fewn eu cymuned.
Dros y blynyddoedd diwethaf, cafwyd sawl achos o blant Tre-biwt a’r ardal yn methu â chael llefydd yn Ysgol Glantaf dim ond i’r penderfyniadau gael eu gwyrdroi drwy’r broses apeliadau. Ond gwyrdroi neu beidio, achosodd y sefyllfa lawer o bryder a phoen meddwl di-angen i nifer o blant a’u teuluoedd a hynny ar adeg ffurfiannol, gyda sawl plentyn yn wynebu’r posibilrwydd o orfod mynychu ysgolion uwchradd gwahanol i’w cyfoedion. Mae’r ansicrwydd hwnnw yn cael ei fynegi yn y gymuned hyd heddiw ac yn effeithio ar benderfyniadau teuluoedd, gan gynnwys a ddylid gwneud cais am ysgolion cyfrwng Cymraeg ai peidio – yn enwedig ar lefel uwchradd. Amlygodd yr argyfwng sawl diffyg strwythurol andwyol yn narpariaeth addysg Gymraeg yn y brifddinas.
Fel y saif pethau heddiw –
- Does dim ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn lleol i Dre-biwt, Grangetown a’r ardal gyfagos felly nid yw addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn rhan annatod o blethwaith y gymuned ac mae strwythurau daearyddol addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg y ddinas yn camwahaniaethu yn erbyn teuluoedd de’r ddinas ers degwadau.
- Er mwyn mynychu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, rhaid i ddisgyblion sy’n trigo yn ne’r ddinas adael eu cymunedau yn ddyddiol. Golyga hyn fod rhai teuluoedd yn dewis i’w plant fynychu ysgolion uwchradd Saesneg lleol ar ôl astudio mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Rhaid i lawer o deuluoedd eraill ddiystyru addysg cyfrwng Cymraeg yn gyfan gwbwl am nad oes darpariaeth uwchradd cymunedol, hylaw ac hygyrch ar gael. Mae hyn yn anghyfiawnder.
- De’r ddinas yw cartref cymunedau mwyaf aml-ddiwylliannol y brifddinas a Chymru ond does dim ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn bodoli i gynrychioli a dathlu’r aml-ddiwylliannedd yma. Mae’r diffyg hwn yn warthus ac o bwys cenedlaethol.
- Yn groes i un o gonglfeini y Cwricwlwm i Gymru sy’n nodi pwysigrwydd dathlu hunaniaeth unigryw eich cymuned tra’n dysgu am y byd, mae gofyn i blant Tre-biwt, Grangetown a de’r ddinas adael eu cymunedau i dderbyn addysg Gymraeg mewn ysgolion sydd hanner ffordd ar draws y ddinas.
- De’r ddinas hefyd yw un o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd y brifddinas a Chymru ac mae ymchwil ar ein rhan yn profi mai wardiau Tre-biwt a Grangetown sydd ymysg yr ardaloedd â’r hygyrchedd gwaethaf i addysg cyfrwng Cymraeg yn y brifddinas. Mae hyn yn brawf pellach fod strwythurau presennol addysg Gymraeg yn camwahaniaethu yn erbyn teuluoedd cymunedau mwyaf aml-ddiwylliannol ac ardal fwyaf difreintiedig yn economaidd y ddinas.
- Gyda thŵf poblogaeth anochel yn ne’r ddinas yn sgil fflatiau newydd y Cynllun Datblygu Lleol, nid yw’r isadeiledd yn ei le i wasanaethu trigolion y dyfodol sy’n cynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg.
- Nid oes un o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg ein prifddinas wedi eu lleoli mewn adeiladau newydd ac nid oes darpariaeth o gwbwl yn ne’r brifddinas. Wrth grybwyll yr angen i leihau tarfu yn eich arolwg, rydych yn diystyrru’r impact y mae peidio cael ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg mewn cymuned o gwbwl yn tarfu ar deuluoedd mewn pob math o ffyrdd a sut y mae hynny wedi ac yn allgáu miloedd o blant o’r Gymraeg am weddill eu bywydau.
Beth sydd ei angen a pham –
- Dylai unrhyw gynlluniau byr dymor gan y Cyngor Sir fwydo i mewn i weledigaeth hir-dymor lle mae pedair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn bodoli yn y brifddinas, un i gynrychioli pob pwynt ar y cwmpawd, a hynny mewn adeiladau o’r radd flaenaf.
- Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg 2025 yn golygu fod dyletswydd ar y Cyngor i dyfu addysg Gymraeg yn weithredol. Mae cynyddu nifer yr ysgolion uwchradd Cymraeg felly’n gwbwl hanfodol. Yr unig fodd o sicrhau tegwch a chynhwysiant i bob plentyn yw sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym mhob pwynt cwmpawd o’r ddinas. Mewn dinas o faint Caerdydd, mae angen ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg ar y Gogledd, y De, y Dwyrain a’r Gorllewin. Dim ond hynny fydd yn sicrhau teithio cyfleus, hygyrch, diogel a chynaliadwy. Ac yn unol â gweledigaeth y Cyngor ei hun i greu dinas gynaliadwy a chymdogaethau 15-munud, dim ond ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i bob cymuned sy’n ffitio’r weledigaeth honno hefyd.
- I’r perwyl hwn, gwrthodwn yn llwyr unrhyw gynllun sy’n bygwth tynnu Bro Edern ac addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg oddi wrth dwyrain y ddinas. Mae angen ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg ar bob ardal.
- Gwrthodwn y rhan fwyaf o opsiynau sy’n weddill yn y ddogfen am eu bod yn annigonol i ddiwallu anghenion de Caerdydd (Opsiynau 1, 3, 4, a 6) ac mewn rhai achosion yn annerbyniol o niweidiol (Opsiynau 2 a 3). Byddai pedwaredd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer oedrannau 11-18 (Opsiwn 4) yn diwallu’r angen pe bai wedi’i lleoli yn Grangetown/Tre-biwt ond byddai’n annigonol heb gynnwys cynllun hefyd ar gyfer darparu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn yr ardal, a chynyddu nifer y ffrydiau cynradd ar y safle dros amser.
- Wrth ystyried lledaeniad daearyddol yr ysgolion cyfrwng Cymraeg, rhaid cymryd i ystyriaeth ym mha gymuned y mae plant yn byw a bod hawl ganddynt fynychu ysgol leol – sefydliad sy’n eu cynrychioli gyda’u cyfoedion o’r cynradd o’u hamgylch. Yn hyn o beth, rhaid i’r Cyngor newid ei ddiwylliant unigolyddol o sicrhau fod ‘pob dysgwr sydd eisiau lle… yn gallu manteisio ar un’ i fyd-olwg sy’n derbyn bod plant yn perthyn i gymunedau ac â’r hawl i aros ynddynt hefyd.
- Yn ne’r ddinas, mae cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i agor ysgol bob oed cyfrwng Cymraeg cyntaf y brifddinas a hynny i wasanaethu’r ardal honno’n benodol. Campws fydd yn adnodd o ddefnydd i’r gymuned gyfan a man byrlymus, dinesig lle bydd y Gymraeg yn ganolog ac yn rhan o stori aml-ddiwylliannol, amlieithog.
- Ar safle bob oed, bydd modd gwneud defnydd effeithiol o’r is-adeiledd fyddai’n cael ei greu drwy gyd-leoli gwasanaethau. Hefyd, wrth gael campws sy’n cynnig gwasanaeth gofal plant gall fod o gymorth i rieni allu dychwelyd i’r gwaith neu hyfforddiant – sy’n bwysig mewn ardal gyda difreintedd amlwg. Byddai plant a theuluoedd yn gallu meithrin cyswllt gyda’r safle o 6 mis oed i addysg oedolion, gan normaleiddio safle addysgol cyfrwng Cymraeg yn eu bywydau. Gallasai’r safle hefyd fod yn ganolfan i wasanaethau plant yn yr ardal, neu hyd yn oed mewn partneriaeth gyda chyrff cyhoeddus eraill. Wrth fod o ddifri am ganolfan i bob oed, mae cyfle euraidd yn ne Caerdydd i rhoi is-adeiledd cymdeithasol yn ei le ar gyfer ardal sy’n mynd i fod yn datblygu yn sgil y Cynllun Datblygu Lleol. Gellid hefyd cynnig adnoddau i addysg oedolion, gweithgaredd hamdden cymunedol, diwylliannau lleol – a’r rhain i gyd mewn ardal sydd weithiau’n brin o adnoddau fforddiadwy i rieni a theuluoedd, gyda’r Gymraeg wrth galon y cyfan.
Yn eich cyflwyniad, rydych yn nodi mai dyma ein cyfle fel trigolion i ddweud beth sydd fwyaf pwysig inni. Ond eich cyfle chi fel Arweinwyr a Chabinet yw hyn mewn gwirionedd – i unioni strwythurau sy’n camwahaniaethu yn erbyn teuluoedd de’r ddinas ers degawdau ac i sicrhau, o’r diwedd, fod addysg cyfrwng Cymraeg cymunedol – o’r meithrin i’r uwchradd – ar gael i bawb.
Galwn yn ffurfiol felly arnoch fel Arweinydd a Chabinet Cyngor Caerdydd i ddatgan eich bwriad i sefydlu’r bedwaredd ysgol ar unwaith drwy gyhoeddi cynnig penodol, statudol am ysgol bob oed 3-19 cyfrwng Cymraeg i’w lleoli ac i wasanaethu teuluoedd Tre-biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos. A hynny fel mater o gyfiawnder cymdeithasol.
Yn ddiffuant,
Ymgyrch Ysgol De Caerdydd